Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
24 Hydref 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13524
------
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3-6, 8 a 10. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.20
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dwr - Gohiriwyd tan 12 Rhagfyr
Gohiriwyd yr eitem hon tan 12 Rhagfyr
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.43
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Diweddariad ar Gynnydd y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 15.24
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb
Dechreuodd yr eitem am 16.10
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Troseddol
Dechreuodd yr eitem am 16.45
8 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.23
9 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.56
NDM8386 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mehefin 2023.
Dogfennau Ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.59
NDM8387 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2023.
Dogfennau Ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Cyfnod pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 18.06
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 25 Hydref 2023